Rydym ni’n gywaith o athrawon profiadol sy’n cynnig ystod eang o Ddulliau Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar ledled Gogledd Orllewin Cymru. Rydym yn ymrwymedig i ddod â darpariaeth Ymwybyddiaeth Ofalgar i grwpiau ac unigolion mewn lleoliadau amrywiol, gan gynnwys cyrsiau i’r cyhoedd yn gyffredinol a sesiynau yn y gweithle.
Mewn ymwybyddiaeth ofalgar defnyddiwn chwilfrydedd tyner i archwilio beth sy’n digwydd yn ein profiad fesul moment. Mae’n gweddu i bawb sy’n dymuno lleddfu straen, gwella iechyd, ac agor y drws i lesiant gwell.
I ddysgu mwy am y gwahanol ddulliau sydd ar gael edrychwch ar ein tudalen 'beth ‘dan ni’n cynnig' neu dewch draw i sesiwn flasu am ddim: